Polydore Vergil | |
---|---|
Ganwyd | c. 1470 Urbino |
Bu farw | 28 Ebrill 1555 Urbino |
Dinasyddiaeth | Dugiaeth Urbino, Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | hanesydd, llenor, offeiriad, ysgolhaig |
Mudiad | Dyneiddiaeth |
Hanesydd o'r Eidal fu'n byw yn Lloegr oedd Polydore Vergil neu Virgil (c. 1470 – 18 Ebrill 1555). Mae ei waith yn ffynhonnell bwysig i gyfnod y Tuduriaid.
Ganed Polydore yn Urbino, a dywedir iddo gael ei addysgu yn Bologna. Credir ei fod yng ngwasanaeth Guido Ubaldo, Dug Urbino, cyn 1498. Bu'n siambrlen i'r Pab Alecsander VI am gyfnod, yna daeth i Loegr yn 1501 fel dirpry gasglydd Ceiniogau Sant Pedr. Ar gais y brenin Harri VII, dechreuodd weithio ar ei Historia Anglica ("Hanes Lloegr"); ni chafodd y gwaith yma ei gwblhau hyd Awst 1533 a'i gyhoeddi yn 1534. Daeth yn archddiacon Wells yn 1508. Yn 1515, carcharwyd ef am gyfnod wedi iddo feirniadu'r Cardinal Thomas Wolsey. Dychwelodd i Urbino tua diwedd 1551, a bu farw yno.
Yn ei Historia Anglica, taflodd amheuaeth ar wirionedd hanesion Sieffre o Fynwy, yn cynnwys yr hanesion am Arthur, a bu llawer o ddadlau, gyda John Leland yn cyhoeddi ei Defensso Gallofridi ac Assertio Incomparabilis Arturii i amddiffyn Sieffre.